BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

DIM OND? Dim esgus

Wyt ti wedi gweld neu glywed rhywbeth annerbyniol yn y gwaith? Wyt ti wedi clywed cydweithiwr neu ffrind yn gwneud sylw amheus, a tithau heb wybod sut i’w herio am y peth?

Mae ymgyrch newydd sy'n galw ar y cyhoedd i herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod - a ystyrir ar gam ei fod yn ‘ddiniwed’ yn aml - wedi cael ei lansio ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol gymunedau Cymru am yr ymddygiadau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o aflonyddu a'r teimladau y maent yn eu codi ar yr unigolion sy'n eu profi.

Mae'n galw ar bobl sy'n gweld ymddygiadau amhriodol o'r fath - dynion yn benodol - i'w herio pan fo'n ddiogel i wneud hynny.

Mae hyn yn cynnwys annog dynion i herio ymddygiadau camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau a'u cyd-weithwyr mewn modd diogel - gan hybu diwylliant sy'n ystyriol o gydraddoldeb a pharch.

Nod yr ymgyrch ‘Dim esgus’ yw tynnu sylw at sut y gellir bychanu gweithgareddau drwy ddechrau gyda'r geiriau ‘dim ond’, er enghraifft, “‘Dim ond’ chwibanu ati wnes i.”

Nid yw herio eraill ynghylch eu hymddygiad yn golygu eu bychanu neu godi cywilydd arnynt, nac yn rheswm i godi dwrn. Mae’n fater o addysgu pobl a’u hannog i newid eu hagwedd.

Dim ond mewn ffordd sy’n ddiogel i bawb y dylem fynd ati i herio ymddygiad ac agweddau amharchus/niweidiol.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.