Er mwyn diogelu eich eiddo deallusol y tu allan i'r DU, fel arfer, bydd angen i chi wneud cais ym mhob gwlad rydych chi eisiau amddiffyn eich eiddo deallusol ynddi.

Mae hawliau eiddo deallusol (IP) yn diriogaethol. Maen nhw ond yn rhoi amddiffyniad yn y gwledydd lle cant eu caniatáu neu eu cofrestru.

Os dim ond amddiffyniad yn y DU sydd gennych, efallai y bydd eraill yn cael defnyddio eich IP dramor heb dorri eich hawliau.

Os ydych chi'n ystyried masnachu dramor, dylech ystyried cofrestru eich hawliau IP dramor.

Efallai y bydd rhai gwledydd yn caniatáu i chi ymestyn yr amddiffyniad sydd gennych yn y Deyrnas Unedig (DU), a derbyn bod eich IP wedi’i amddiffyn yn y wlad honno ar ôl cwblhau rhai camau ffurfiol lleol.

Mae’r World Intellectual Property Organisation (WIPO) yn darparu rhestr o’r holl swyddfeydd IP cenedlaethol. Mae’r WIPO hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer busnesau sydd eisiau amddiffyn eu IP yn rhyngwladol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen