BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu gweithwyr unigol

Gall gweithwyr unigol fod mewn o berygl o niwed gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un i’w helpu neu eu cefnogi os yw pethau’n mynd o chwith.

Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i’r rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.

Lawrlwythwch daflen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 'Protecting lone workers: How to manage the risks of working alone' ar gyfer unrhyw un sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n eu defnyddio fel contractwyr ac ati, gan gynnwys pobl hunangyflogedig neu’r rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.

Mae’r daflen yn cael ei chefnogi gyda thudalennau gweithwyr unigol sy’n cynnwys cyngor ar gyfer y gweithwyr unigol eu hunain.
 
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.