BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad am Dollau CThEM

Mae CThEM yn anfon llythyr at fasnachwyr ynghylch gweithredu nawr i symud i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn gwneud eich datganiadau eich hun neu os bydd rhywun yn cyflwyno datganiadau mewnforio ac allforio ar eich rhan. Efallai na fyddwch yn gallu parhau i fasnachu os na fyddwch yn symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau mewn pryd.

Ar ôl 30 Medi 2022, bydd y system Tollau Tramor ar Gludo Nwyddau Mewnforio ac Allforio (CHIEF) yn cau ar gyfer datganiadau mewnforio, a bydd angen gwneud y rhain ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Bydd y gallu i wneud datganiadau allforio yn dod i ben a bydd y prif wasanaeth yn cau ar 31 Mawrth 2023.  

Rhaid i fusnesau sicrhau bod ganddynt asiant tollau sy'n barod i wneud eu datganiadau mewnforio ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau neu sefydlu eu hunain i wneud eu datganiadau eu hunain erbyn y dyddiad cau ar 30 Medi 2022.

Bydd gweithredwyr post, fel y Post Brenhinol, yn parhau i wneud datganiadau tollau ar ran busnesau bach y DU sy'n derbyn nwyddau o dramor drwy'r post, ac yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw dreth neu doll sy’n ddyledus.

Er mwyn helpu pob busnes ac asiant i baratoi ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, mae mwy o wybodaeth ar gael ar GOV.UK, gan gynnwys pecyn gwybodaeth a rhestrau gwirio y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, sy'n dadansoddi'r camau y mae angen i fasnachwyr eu cymryd. Gall masnachwyr hefyd gofrestru neu wirio bod ganddynt fynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar GOV.UK a chael mynediad byw at wasanaethau cymorth cwsmeriaid i gael cymorth ychwanegol.

Y Gwasanaeth Datganiadau Tollau fydd unig blatfform tollau'r DU ar ôl 31 Mawrth 2023, gan ddisodli CHIEF. Ar ôl 31 Mawrth, bydd rhaid i fusnesau ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau i wneud datganiadau allforio ar gyfer nwyddau y maent yn eu hanfon allan o'r DU.

Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.