BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad Tollau CThEM – cymerwch gamau nawr i barhau i fewnforio nwyddau

Os yw eich busnes yn mewnforio nwyddau i'r DU, yna mae angen i chi symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau nawr. Os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fyddwch yn gallu mewnforio nwyddau i'r DU o 1 Hydref 2022. 

Hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio asiant tollau i'ch helpu gyda datganiadau tollau, mae yna gamau y mae angen i chi eu cymryd o hyd. Mae angen i chi: 

  • danysgrifio i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau 
  • dewis dull talu 
  • gwirio bod eich awdurdodau sefydlog wedi'u sefydlu'n gywir 
  • rhoi cyfarwyddiadau clirio tollau i'ch asiant tollau

Mae'n cymryd nifer o wythnosau i symud ar draws felly dylech chi danysgrifio cyn gynted â phosibl.

Bydd rhestr wirio masnachwyr CThEM yn eich helpu i sicrhau eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol.   

Gallwch sefydlu awdurdod sefydlog ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar eich cyfrif ariannol tollau. Gallwch hefyd wneud newidiadau i ychwanegu neu ddileu'r rhain yn yr un lle.  

Erbyn 30 Medi 2022, mae angen i chi sefydlu cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol newydd ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau os ydych yn defnyddio cyfrif gohirio tollau. Os na fyddwch yn gwneud hyn, ni fyddwch yn gallu defnyddio'ch cyfrif gohirio tollau a bydd angen i chi wneud taliadau ar unwaith bob tro y byddwch yn gwneud datganiad mewnforio.

Y cymorth a’r gefnogaeth ar-lein sydd ar gael
Mae gan CThEM ystod o gefnogaeth ar-lein sydd ar gael i'ch helpu i symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau, gan gynnwys: 

Mae mwy o help a chymorth ar gael  
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau, cysylltwch â CThEM drwy ddefnyddio un o’r sianeli hyn
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.