BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach 2023

Mae'r ceisiadau ar gyfer 100 Busnes Bach eleni bellach ar agor yn swyddogol!

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, 2 Rhagfyr 2023.

Mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn Llundain mewn derbyniadau yn Stryd Downing ac yn y Trysorlys gyda Changhellor y Trysorlys.

Bydd y ceisiadau’n cau ddydd 30 Mehefin 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y Busnesau Bach.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.