BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eithriad rhag talu cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol ar gyfer profion antigenau Coronafeirws a ddarperir gan gyflogwyr

Nod y mesur hwn yw sicrhau nad oes rhaid talu trethi ar weithdrefnau profion antigenau perthnasol gan gyflogwyr ac mae’n darparu ar gyfer eithriad dros dro newydd i sicrhau na fydd gweithwyr sy’n cael prawf antigenau coronafeirws perthnasol gan eu cyflogwr yn gorfod talu tâl buddion mewn nwyddau.

Bydd yr eithriad yn berthnasol i unrhyw brawf antigenau coronafeirws perthnasol a ddarperir gan gyflogwr, ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2020, hyd at ac yn cynnwys, 5 Ebrill 2021. Yn achos unrhyw brofion perthnasol a ddarparwyd yn gynharach yn y flwyddyn dreth, cyn i’r offeryn hwn ddod i rym, bydd CThEM yn defnyddio ei ddisgresiwn casglu a rheoli i beidio â chasglu unrhyw gyfraniadau Treth Incwm neu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus ar ddarpariaeth prawf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.