BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Energy For Tomorrow yn agor ceisiadau ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru

Oes arnoch angen £20,000 i osod pwynt gwefru e-gerbyd? Ydych chi eisiau £100,000 i ariannu offeryn ynni newydd fydd yn trawsnewid eich cymuned? Yna gwnewch gais i gronfa effaith gymdeithasol Centrica, Energy for Tomorrow (EfT).

Mae cronfa EfT yn chwilio am brosiectau, mentrau a syniadau a all gyflymu'r newid ynni ac sydd eisiau cefnogi'r rheiny sydd â chenhadaeth gymdeithasol glir; syniad hyfyw ac ymarferol; a gall ddangos un neu fwy o'r canlynol:

  • Rydych chi'n arloeswyr ynni
  • Rydych chi'n newid ymddygiadau
  • Rydych chi'n cefnogi cymunedau

Mae'r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol ledled Cymru. Gall sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £100,000. Mae gan ymgeiswyr hyd at ddydd Gwener, 4 Tachwedd 2022 i gyflwyno ceisiadau.

I ddarganfod mwy ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol Energy For Tomorrow opens applications for Welsh community projects | Centrica plc
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.