BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Loteri Tŷ Cerdd

Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu sefydliadau i ddatblygu cerddora ym mhob genre mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae tair elfen - Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli - yn cefnogi amrywiaeth o waith. Caiff eich sefydliad wneud cais i un, dau neu dri photyn ar yr un pryd os oes gynnoch chi weithgarwch sy’n gweddu i’r blaenoriaethau a’r canllawiau:

  • Creu - Cronfa i gefnogi creu gwaith newydd gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth mewn unrhyw genre. Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 gan Creu i gomisiynu cyfansoddwr, cydweithio ag artist preswyl neu ymuno â chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi darn newydd i’ch grŵp.
  • Ymgysylltu - Gan ariannu amrywiaeth o weithgarwch - o berfformiadau byw i gynyrchiadau ar-lein, o weithdai i gydweithrediadau cymunedol - mae Ymgysylltu yn cynnig grantiau rhwng £250 a £2,000 tuag at weithgarwch sy’n ymestyn allan at gynulleidfaoedd a chymunedau.
  • Ysbrydoli - Gyda phobl ifainc yn ganolog iddo, mae Ysbrydoli yn gallu cefnogi’ch sefydliad hyd at gyfanswm o £2,000 am brosiect cerdd i gyfranogwyr o dan 26 oed neu o dan 31 ar gyfer cyfranogwyr anabl.

Mae’r gystadleuaeth yn cau am 5pm, 19 Ebrill 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyllid Loteri / Lottery Funding | tycerdd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.