BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Smart Innovate UK

Mae Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol gorau a mwyaf blaenllaw, a gynlluniwyd ar gyfer masnacheiddio cyflym, llwyddiannus. Mae angen i syniadau fod yn wirioneddol newydd a chyfoes, ac nid aflonyddu yn eu sector nhw’n unig.

Rhaid i'ch cynnig fod yn canolbwyntio ar fusnes, gyda chynlluniau realistig a chyflwynadwy, ac ag adnoddau digonol i gyflawni elw ar fuddsoddiad, twf a chyfran o'r farchnad ar ôl cwblhau'r prosiect.

Gall ceisiadau ddod o unrhyw faes technoleg a chael eu cymhwyso i unrhyw ran o'r economi, fel, ond heb fod yn gyfyngedig i sero net, y celfyddydau, dylunio a'r cyfryngau.

Daw'r gystadleuaeth i ben ar 14 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Innovate UK Smart grants: January 2023 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.