BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gronfa Cadernid Economaidd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ragor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais.

Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Bydd y broses ymgeisio i fusnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol trwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor ddydd Gwener 17 Ebrill.

Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gael ar y Gwirwyr Cronfeydd Busnes Cymru. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.