BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithio’n ddoethach: strategaeth gweithio o bell i Gymru

Mae'r ffordd y mae pobl yn gweithio wedi newid yn sylweddol ers y pandemig ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i gadw'r manteision cadarnhaol a brofir gan lawer ac annog mwy o fusnesau i fabwysiadu'r dull newydd hwn o weithio.

Mewn strategaeth a gyhoeddwyd heddiw (25 Mawrth 2022), mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i weithio gyda busnesau, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol i helpu mwy o gyflogwyr i fabwysiadu dull mwy hyblyg yn eu gweithle, fel y gall gweithwyr wneud dewis o ran y ffordd y maent yn gweithio, boed hynny'n lleol o le gwaith a rennir,  oddi cartref, neu gymysgedd o'r ddau.

Mae cynlluniau i ddatblygu platfform ar-lein sy'n helpu pobl i ddod o hyd i leoedd gwaith sy'n lleol iddynt yn cael eu harchwilio, ochr yn ochr â chanllawiau arfer gorau y gellir eu rhannu â busnesau i'w helpu i symud.

Ac er mwyn helpu gweithwyr i ddeall eu gweithlu'n well ac olrhain tueddiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, cesglir data. 

Am ragor o wybodaeth ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.