BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithwyr iechyd i elwa ar estyniadau fisa

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd fisâu gweithwyr iechyd proffesiynol a’u dibynyddion teuluol yn cael eu hymestyn am flwyddyn.

Bydd yr estyniad yn berthnasol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y GIG a’r sector iechyd a gofal annibynnol. Bydd eu fisâu yn cael eu hymestyn am flwyddyn, heb iddynt orfod talu unrhyw ffioedd, gan gynnwys y Gordal Iechyd Mewnfudo.

Bydd angen i’r rhai sy’n elwa ar yr estyniad hwn lenwi ffurflen ar-lein syml i gadarnhau pwy ydyn nhw; gofynnir i’w cyflogwyr gadarnhau eu cymhwysedd hefyd.

Mae gan weithwyr gofal iechyd sy’n ddinasyddion yr UE, gwlad arall yn yr AEE neu’r Swistir, neu aelodau o’u teulu, hyd at 30 Mehefin 2021 i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.