BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2021

Sefydlwyd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yn 2015 i gydnabod llwyddiannau unigolion sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle a chymryd risgiau i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. 

Cynhelir Gwobrau Busnesau Newydd Cymru ers chwe blynedd bellach a dyma’r unig wobrau yn y DU sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddathlu llwyddiannau busnesau newydd a chydnabod busnesau ar draws pob sector a phob rhan o Gymru.

I wneud cais am y gwobrau, mae’n rhaid i swyddfa gofrestredig a/neu gyfeiriad masnachu’r busnes fod yng Nghymru a dylai’r busnes fod wedi cychwyn masnachu ar 1 Mehefin 2018 neu wedi hynny. 

Dylai’r busnes fod dan berchnogaeth annibynnol h.y. y sylfaenwyr/buddsoddwyr annibynnol yn berchen arno ac nid yn is-gwmni ar gyfer busnes arall.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Busnesau Newydd Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.