BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Dathlu Busnesau Bach Ffederasiwn y Busnesau Bach 2023

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn dathlu cyflawniadau a chyfraniadau busnesau bach a phobl hunangyflogedig ledled y DU.

Fel y digwyddiad mwyaf o'i fath yng nghalendr y busnesau bach, mae'r Gwobrau Dathlu Busnesau Bach proffil uchel FSB yn rhad ac am ddim i ymgeisio ac yn agored i bawb.

Gan y bydd enillwyr pob categori yn ennill lle yn rownd derfynol fawreddog y DU ac yn cael cyfle i gael eu coroni'n Fusnes Bach y Flwyddyn y DU, mae'n gyfle i gael cydnabyddiaeth eang. Bydd cystadleuwyr yn cael eu beirniadu gan banel o arbenigwyr busnes blaenllaw sydd â chyfoeth o brofiad yn eu diwydiant.

Mae 12 categori, ac mae croeso i chi rhoi cynnig ar gymaint o wahanol gategorïau yn eich ardal ag y dymunwch; fodd bynnag, gwnewch un cais fesul categori yn unig.
Y dyddiad cau i Gymru yw 2 Chwefror 2023, a bydd rownd derfynol Cymru'n cael ei chynnal ar 24 Mawrth 2023. 

Wedyn, bydd enillwyr pob categori daearyddol yn cael eu cofrestru ar gyfer Rownd Derfynol y DU, a gynhelir ar 18 Mai 2023 yn y National Conference Centre, Birmingham.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i  Entering the Awards (fsbawards.co.uk)  
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.