BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2023

Mae #LlaisAwards, sef Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2023 yn agored i unrhyw ferch sy'n rhedeg busnes yma yng Nghymru. 

Categorïau #LlaisAwards 2023 yw:

  • Busnes Newydd (llai 'na 12 mis oed)
  • Mam Mewn Busnes
  • Busnes Gwyrdd (busnes sy'n hybu'r amgylchedd)
  • Dan 25 oed
  • Pencampwr Manwerthu
  • Menter Gymdeithasol
  • Bwyd a Diod
  • Defnydd o'r Gymraeg
  • Iechyd, Ffitrwydd a Lles
  • Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd
  • Gwallt a Harddwch
  • Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio
  • Hamdden a Thwristiaeth

Does dim rhaid i chi enwebu merch ym mhob categori, ond dim ond un merch ym mhob categori y gallwch chi enwebu. Gallwch chi bleidleisio drosoch eich hun hefyd.

Bydd y cyfnod enwebu ar agor tan 5pm ddydd Mercher, 19eg o Ebrill 2023. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol #LlaisAwards | Llais Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.