Dysgwch fwy am eich hawliau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a sut mae'n diogelu nodweddion gwahanol. Mae'r wybodaeth hon ar gyfer gweithwyr, cyflogwyr, unigolion sy'n defnyddio gwasanaeth, unrhyw sefydliad sy'n defnyddio gwasanaeth a'r sector cyhoeddus.
Mae pawb ym Mhrydain yn cael eu hamddiffyn. Mae hyn oherwydd bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu oherwydd y nodweddion gwarchodedig sydd gennym i gyd.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae naw nodwedd warchodedig:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd a chred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Mae rhai gwahaniaethau pwysig yn dibynnu ar ba nodwedd warchodedig sydd gennych.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:
- Your rights under the Equality Act 2010 | Equality and Human Rights Commission (equalityhumanrights.com)
- Equality Act | Equality and Human Rights Commission (equalityhumanrights.com)