BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Honiadau 'gwyrdd': beth ddylai busnesau ei wneud a'i osgoi

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnata (CMA) wedi nodi ei safbwynt ar y mathau o honiadau amgylcheddol camarweiniol a wneir am gynhyrchion a allai fod yn torri'r gyfraith, ac mae’n gofyn am ymateb ar ganllawiau drafft i fusnesau am honiadau 'gwyrdd'. 

Mae hyn yn seiliedig ar adolygiad gofalus o sut mae'r honiadau hyn yn cael eu gwneud a sut mae pobl yn ymateb iddynt. Mae'n esbonio'r ffordd orau i fusnesau gyfleu eu rhinweddau gwyrdd, gan leihau'r risg o gamarwain cwsmeriaid hefyd.

Daw'r cyfarwyddyd hwn ar adeg pan mae mwy na hanner defnyddwyr y DU yn ystyried ystyriaethau amgylcheddol wrth brynu cynnyrch.

Yn benodol, mae'r canllawiau arfaethedig yn nodi 6 egwyddor y dylai honiadau amgylcheddol eu dilyn, sef:

  • rhaid iddynt fod yn onest ac yn gywir
  • rhaid iddynt fod yn glir ac yn ddiamwys
  • ni ddylent hepgor na chuddio gwybodaeth bwysig
  • rhaid iddynt wneud cymariaethau teg ac ystyrlon yn unig
  • rhaid ystyried cylch oes llawn y cynnyrch
  • rhaid bod modd eu profi

Hoffai'r CMA gael ymateb a sylwadau ar ei ganllawiau, yn enwedig gan unrhyw un sy'n prynu neu'n gwerthu cynhyrchion yr honnir eu bod yn ecogyfeillgar, gan gynnwys a oes angen unrhyw wybodaeth bellach i helpu cwmnïau i gydymffurfio â'r gyfraith.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 16 Gorffennaf 2021, a'r bwriad yw cyhoeddi'r canllawiau terfynol erbyn diwedd Medi 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.