BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru i helpu pobl sydd ag ôl-ddyledion i dalu eu rhent

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn annog unrhyw un sydd wedi syrthio i ddyled gyda’u taliadau rhent oherwydd y pandemig i gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael gwybod a allant gael cymorth ariannol i osgoi cael eu troi allan.

Mae'r alwad yn ymgais i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn agos at eu rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn osgoi'r effaith ddinistriol y gall digartrefedd ei chael ar les corfforol, meddyliol a chymdeithasol.

Cyhoeddwyd y Grant Caledi i Denantiaid ym mis Gorffennaf y llynedd, ac mae’r newidiadau newydd a gyhoeddwyd heddiw i'r cynllun grant gwerth £10 miliwn hwn yn golygu y gall unrhyw un sy'n wynebu ôl-ddyledion oherwydd rhesymau sy'n gysylltiedig â Covid o ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020 hyd at fis Rhagfyr 2021, wneud cais.

Mae hyn yn golygu y gallai tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent am eu bod wedi colli eu swyddi ar ôl i’r cynllun Ffyrlo ddod i ben ym mis Medi, neu a welodd ostyngiad sylweddol yn eu hincwm pan gafodd y cynnydd i’r Credyd Cynhwysol ei ddileu gan Lywodraeth y DU, fod yn gymwys o dan y meini prawf newydd.

Mae enghreifftiau eraill o ôl-ddyledion rhent o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig yn cynnwys colli incwm oherwydd cyfyngiadau symud neu oherwydd mynd yn sâl gyda Covid-19.

Yn ogystal, mae tenantiaid mewn tai cymdeithasol nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai bellach yn gallu gwneud cais, ac anogir tenantiaid mewn cartref wedi’i rentu’n breifat i barhau i wneud cais hefyd.

Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU a Datganiad Ysgrifenedig: Y Grant Caledi i Denantiaid – y camau nesaf (12 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.