BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mesurau cryfach i ostwng cyfraddau uchel o’r coronafeirws yng Nghymru

Heddiw [dydd Gwener 29 Hydref 2021] bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.

Bydd y Prif Weinidog yn dweud bod Cymru’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac oni bai bod y cyfraddau'n dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf, y bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau yn yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau er mwyn dod â lledaeniad y feirws o dan reolaeth.

Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diwethaf o’r cyfyngiadau coronafeirws, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero, ond y bydd rhai mesurau ychwanegol yn cael eu cymryd i ddiogelu iechyd pobl.

Mae'r canllawiau ynghylch hunanynysu yn newid. Bydd gofyn i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant a phobl ifanc rhwng 5 a 17 oed hunanynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negatif os bydd rhywun ar eu haelwyd yn arddangos symptomau neu’n cael prawf positif ar gyfer Covid-19.

Bydd rhaid i bobl sydd heb gael eu brechu barhau i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, gan gynnwys cysylltiadau agos y tu allan i'w haelwydydd.

A thra bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau'n uchel iawn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymestyn y defnydd o’r Pàs COVID i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd 2021. Mae'r rhain yn lleoliadau lle mae nifer fawr o bobl yn ymgynnull o dan do, yn agos at ei gilydd, am gyfnodau hir ar y tro.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo | LLYW.CYMRU - Gallwch arddangos a rhannu'r posteri hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pawb i weithio gartref lle bynnag y bo modd ac yn atgoffa pawb o'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Ddoe fe wnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, gwrdd â manwerthwyr i'w hannog i wneud popeth o fewn eu gallu i godi ymwybyddiaeth o’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.