BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mesurau iechyd cyhoeddus newydd i bawb sy’n cyrraedd y DU ar ffin y DU

Bydd mesurau newydd yn dod i rym ar ffin y DU ar 8 Mehefin 2020. Maent yn cynnwys gofyniad i unrhyw un sy’n dod i mewn i’r DU hunanynysu am 14 diwrnod, heblaw am restr fer o eithriadau.

Mae’r rhestr lawn ar gael ar GOV.UK ac yn cynnwys:

  • gweithwyr cludiant ffyrdd a gweithwyr cludo, er mwyn sicrhau na effeithir ar gyflenwad nwyddau
  • gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n teithio i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws
  • unrhyw un sy’n symud o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin, sy’n cwmpasu Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
  • gweithwyr amaethyddol tymhorol sy’n hunanynysu ar y safle lle maent yn gweithio

Bydd y newidiadau yn amodol ar adolygiad bob tair wythnos, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a’u bod yn parhau yn effeithiol ac yn angenrheidiol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.