BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i’r cynllun Kickstart

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau gwaith newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar y trothwy o 30 swydd ar y cynllun Kickstart. Os ydych chi’n gyflogwr sydd am greu 29 neu lai o leoliadau gwaith i bobl ifanc, gwnewch gais am gyllid fel rhan o’r Cynllun Kickstart.

Gallwch wneud cais ar-lein yn uniongyrchol yma.

Gallwch ddewis gwneud cais drwy borth Kickstart hefyd, yn cynnwys y rhai sy’n cefnogi unig fasnachwyr.

Gall pyrth Kickstart sydd eisoes yn gweithio gyda’r cynllun barhau i ychwanegu mwy o gyflogwyr a lleoliadau gwaith i’w cytundeb grantiau.

Ar gyfer sefydliadau a all helpu cyflogwyr yng Nghymru ymwelwch â GOV.UK.

I gael help gyda phroses y Cynllun Kickstart gallwch gysylltu â thîm Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.