Os ydych chi’n chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio yn gyhoeddus neu yn eich busnes chi (yn cynnwys cerddoriaeth gefndir ar CD, radio neu sianel gerddoriaeth) bydd angen i chi gael trwydded o’r enw ‘TheMusicLicence’.
Pwy sydd angen trwydded?
Fel arfer bydd angen trwydded arnoch chi i chwarae cerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio yn gyhoeddus - yn cynnwys mewn:
- siopau
- swyddfeydd a ffatrïoedd
- salonau trin gwallt a harddwch
- sinemâu a theatrau
- gwestai o bob math
- bwytai a chaffis
- tafarnau, bariau a chlybiau nos
- meysydd chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon eraill (fel alïau bowlio)
- campfeydd a chyfleusterau iechyd eraill
- neuaddau bingo a chasinos
- clybiau cymdeithasol a chlybiau aelodau
- eglwysi a neuaddau
- trafnidiaeth gyhoeddus
Does dim angen trwydded arnoch chi i chwarae cerddoriaeth heb freindal.
Faint mae’n costio?
Mae cost trwydded yn amrywio. Mae’n seiliedig ar bethau fel:
- y lleoliad lle caiff y gerddoriaeth ei chwarae
- sut caiff y gerddoriaeth ei defnyddio
Cysylltwch â PPL PRS i holi a oes angen trwydded arnoch chi ac i gael dyfynbris drwy e-bostio customerservice@pplprs.co.uk, neu ffonio 0800 0720 808, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm. Fel arall, ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.