BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pensiwn Byw

Mae'r safon Pensiwn Byw yn adeiladu ar waith y Cyflog Byw gwirioneddol drwy ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch i weithwyr nawr ac yn y dyfodol.  

Mae'n darged cynilo gwirfoddol i gyflogwyr, i helpu gweithwyr i adeiladu cronfa bensiwn a fydd yn darparu digon o incwm i ddiwallu anghenion dyddiol sylfaenol ar ôl ymddeol. Mae'n cael ei gyfrifo'n annibynnol yn seiliedig ar gost byw wirioneddol.  

Mae'r safon yn nodi'r cyfraniad blynyddol gofynnol sydd ei angen drwy fywyd gwaith cyfartalog i gyrraedd y lefel cynilo hon ac mae cyflogwyr yn ymrwymo i sicrhau bod pob gweithiwr yn gallu cael mynediad at hyn.

Pam mae arnom angen pensiwn byw?

Mae ymchwil a gwblhawyd gan y Resolution Foundation yn 2022 yn dangos nad yw pedwar o bob pump o weithwyr, a 95% o weithwyr cyflog isel, yn cynilo ar lefel sy'n debygol o ddarparu safon byw derbyniol ar ôl ymddeol.

Y rheiny sydd ar gyflog isel sy’n cael eu taro galetaf, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd cadw eu pennau uwchben y dŵr heddiw, yn ogystal â phoeni am ddyfodol ansicr. Trwy gyflwyno Pensiwn Byw ochr yn ochr â'r Cyflog Byw, gall cyflogwyr helpu gweithwyr i fodloni cost byw wirioneddol heddiw ac yn y dyfodol. 
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Living Pension | Living Wage Foundation

Beth am ymweld â thudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddarganfod sut y gall bod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i'ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.