BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Prosiect Yswiriant Seibergadernid: Meithrin Cadernid yng Nghymru

A yw eich busnes yn seiberddiogel? Mae risg seiber wedi cael ei nodi’n un o'r risgiau mwyaf i endidau masnachol ledled y byd.

Prif nod y Prosiect Yswiriant Seibergadernid gan Brifysgol Abertawe, a ariennir gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, yw gwerthuso effeithiolrwydd yswiriant risg seiber fel offeryn rheoli risg ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru (BBaCh).

Mae llawer o fusnesau'n teimlo eu bod nhw’n rhy fach i fod yn darged deniadol i seiber-droseddwr. Yn anffodus, gall yr ymagwedd hon eu gwneud nhw’n brif dargedau.

Gall eich busnes fod mewn perygl o ymosodiad seiber os ydych yn cymryd rhan mewn unrhyw un o'r gweithgareddau busnes sylfaenol canlynol:

  • Defnyddio e-bost
  • Cadw data cwsmeriaid
  • Bod gennych wefan
  • Cymryd taliadau ar-lein

Bydd digwyddiadau a hyfforddiant ymwybyddiaeth seiber yn cael eu cynnal ledled Cymru i werthuso'r ffordd orau y gall BBaChau ddiogelu eu hunain rhag risgiau seiber.

Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth hanfodol i chi a allai fod yn allweddol i amddiffyn eich busnes rhag risgiau seiber. Bydd arbenigwyr yn cynnig cyngor syml ond effeithiol ar aros yn ddiogel, gyda chyfleoedd i drafod y dull gorau ar gyfer eich busnes gyda phwyslais ar amddiffyn ac yswiriant risg seiber.

Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 15 Chwefror 2023 yn Wrecsam, i gael fwy o wybodaeth ac i drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyber Risk: Building Resilience in Wales Tickets, Wed 15 Feb 2023 at 12:00 | Eventbrite

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyber Risks Insurance: Building Resilience in Wales - Swansea University
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.