BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£48 miliwn i helpu diwydiant bysiau Cymru i oroesi a ffynnu

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw fod pecyn cymorth gwerth £48 miliwn yn cael ei roi i’r diwydiant bysiau yng Nghymru i’w helpu i ymadfer o effeithiau’r pandemig ac i ymateb i’r heriau ariannol sy’n ei wynebu.

Bydd y Pecyn Brys ar gyfer Bysiau yn cau’r ‘bwlch ariannol’ tan ddiwedd y flwyddyn er mwyn i weithredwyr bysiau allu cynnal y gwasanaethau a’r llwybrau sy’n angenrheidiol yn eu hardal. Y tâl am hynny yw mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bysiau Cymru.

Mae’r pecyn ariannol hwn yn un o nifer o fesurau tymor byr sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru i helpu gweithredwyr bysiau, hynny pan fo’r angen fwyaf.  O ran dyfodol tymor hwy y diwydiant, caiff adolygiad o’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau (BSSG) ei gynnal i weld sut y gellid ei ddefnyddio i dorri dibyniaeth y diwydiant ar gynlluniau cyllido brys a phontio’r bwlch i fasnachfreinio.

I gael mwy o wybodaeth ewch i £48 miliwn i helpu diwydiant bysiau Cymru i oroesi a ffynnu | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.