BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglenni Twf Tech Nation

Mae saith o raglenni twf a rhaglenni sector mwyaf cyffrous Tech Nation wedi agor ar gyfer ceisiadau.  

Os ydych chi'n rhedeg cwmni technoleg ac eisiau cyflymu ei dwf, gall Tech Nation helpu i ddod o hyd i'r rhaglen iawn i chi.  

Dyma drosolwg o'r gwahanol raglenni isod: 

  • NET ZERO X – mae'r rhaglen hon yn newydd sbon, ac i gwmnïau technoleg hinsawdd cyfnod diweddarach sydd ar y trywydd iawn i ddod yn gigacorns nesaf y DU. Darllenwch fwy
  • NET ZERO 3.0 – mae’n rhaglen ar gyfer cwmnïau technoleg cyfnod cynnar yn y DU sy’n creu dyfodol mwy cynaliadwy. Darllenwch fwy  
  • APPLIED AI 4.0 – mae’n addas ar gyfer cwmnïau sydd â deallusrwydd artiffisial wrth wraidd eu cynnyrch allweddol, ni waeth beth fo’r sector. Darllenwch fwy  
  • LIBRA 2.0 – mae Libra yn cefnogi arweinwyr technoleg sy’n cael eu tangynrychioli gydag uchelgais i dyfu. Darllenwch fwy  
  • FINTECH 5.0 – mae ar gyfer cwmnïau fintech ac insurtech, gan eu helpu i lywio’r daith dyfu. Darllenwch fwy  
  • UPSCALE 8.0 – mae’n rhaglen dwf ar gyfer cwmnïau cyfnod canol ym mhob sector i gyflymu eu twf. Darllenwch fwy  
  • FUTURE FIFTY 11.0 – mae’n rhaglen cyfnod hwyr sy’n mynd I'r afael â heriau unigryw cwmnïau technoleg mwy. Darllenwch fwy  

Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer yr holl raglenni yw 4pm, 28 Mehefin 2022.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.