BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sector Bwyd a Diod Cymreig – Cronfa Her Ddatgarboneiddio a Covid

Bwriad y Cronfa Her Ddatgarboneiddio a Covid yw i ariannu prosiectau cydweithredol a all ddarparu atebion arloesol mewn perthynas â’r agenda datgarboneiddio, gan helpu i adfer sector bwyd a diod Cymru sydd wedi cael ei effeithio’n andwyol gan y pandemig.

Mae cyfanswm o £2,400,000 ar gael drwy dwy ffrwd ariannu: 

  • Cronfa Her i Fusnesau Micro a Busnesau Bach - cyfanswm y cyllid grant sydd ar gael: £600,000. Uchafswm y grant sydd ar gael fesul prosiect / cais yw £50,000, gan gynnwys unrhyw TAW perthnasol. Nid oes angen arian cyfatebol os ydych yn gwneud cais am y gronfa hon. 
  • Prif Gronfa’r Her - cyfanswm y cyllid grant sydd ar gael yw £1,800,000. Uchafswm y cyllid grant sydd ar gael fesul prosiect / cais yw £100,000 gan gynnwys unrhyw TAW perthnasol. Mae angen arian cyfatebol o 20% felly dylai cyfanswm cost y prosiect fod o leiaf £125,000. Mae angen i arian cyfatebol fod yn 50% arian parod o leiaf. Gall y gweddill fod ar ffurf cyfraniad o fath arall, h.y. bydd angen i arian cyfatebol o £25,000 fod yn £12,500 arian parod o leiaf. 

Dyddiad Cau:    23 Tachwedd 2021
Amser Cau:       13:00

Manylion llawn a’r ffurflen gais: GwerthwchiGymru 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.