Mae gwyliau blynyddol â thâl yn hawl gyfreithiol y mae'n rhaid i gyflogwr ei darparu. Mae tâl gwyliau yn cael ei gyfrifo yn ôl y math o oriau mae rhywun yn gweithio a sut maen nhw'n cael eu talu am yr oriau.
Mae hyn yn cynnwys:
- gweithwyr amser llawn
- gweithwyr rhan amser
- gweithwyr asiantaeth
- gweithwyr sy'n gweithio sifftiau anghyson
- gweithwyr achlysurol gan gynnwys cytundebau dim oriau
Mae gan weithwyr hawl i gyflog wythnos am bob wythnos o absenoldeb statudol y maen nhw'n ei gymryd.
Gallwch ddefnyddio'r holiday calculator i weithio allan faint o wyliau y dylai rhywun ei gael.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Holiday entitlement: Holiday pay - GOV.UK (www.gov.uk)
Gallwch hefyd gysylltu â'r Advisory, Conciliation and Arbitration Service (Acas) gyda chwestiynau am faterion cyffredinol ynglŷn â thâl gwyliau.