BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Trethdalwyr yn cael mwy o amser ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Mae Llywodraeth y DU wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Yswiriant Gwladol gwirfoddol i 31 Gorffennaf 2023 i roi mwy o amser i drethdalwyr lenwi bylchau yn eu record Yswiriant Gwladol a helpu i gynyddu'r swm y maen nhw'n ei dderbyn ym Mhensiwn y Wladwriaeth.

Daw hyn wedi i aelodau'r cyhoedd leisio pryder dros y dyddiad cau blaenorol, sef 5 Ebrill 2023.

Mae gan unrhyw un sydd â bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2006 ymlaen fwy o amser i benderfynu a ydyn nhw’n mynd i lenwi'r bylchau er mwyn rhoi hwb i'w Pensiwn Gwladol newydd. Gwneir unrhyw daliadau ar gyfraddau blwyddyn dreth is 2022 i 2023.

Gall trethdalwyr cymwys ganfod sut i wirio eu cofnod Yswiriant Gwladol, rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, penderfynu a yw gwneud cyfraniad gwirfoddol yn werth chweil iddyn nhw a'u pensiwn ar Voluntary National Insurance, a sut i wneud taliad ar GOV.UK.

Gall trethdalwyr wirio eu cofnod Yswiriant Gwladol ar Check your National Insurance record, drwy ap CThEF neu eu Cyfrif Treth Personol.

Ceir mwy o wybodaeth i drethdalwyr ar sut mae Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eu Pensiwn Gwladol ar National Insurance record affects their State Pension.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.