BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Work Right Construction: Your health. Your future.

Mae safleoedd adeiladu yn cael eu targedu fel rhan o fenter arolygu iechyd a gefnogir gan ymgyrch 'Work Right Construction: Your health. Your future'.

Crëwyd yr ymgyrch ‘Your health. Your future’ gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Mae'r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd o ran symud a thrin deunyddiau er mwyn gwella iechyd hirdymor y rheiny sy'n gweithio ym maes adeiladu.

Gan ddechrau ddydd Llun, 3 Hydref 2022, bydd archwiliadau o'r safle sy'n canolbwyntio ar symud a thrin deunyddiau adeiladu yn gwirio bod cyflogwyr a gweithwyr yn gwybod y risgiau, yn cynllunio eu gwaith ac yn defnyddio camau rheoli synhwyrol i amddiffyn gweithwyr rhag anafiadau a doluriau, poen ac anesmwythyd mewn cymalau, cyhyrau ac esgyrn a elwir yn anhwylderau cyhyrysgerbydol (MSDs). 

Gweithredwch nawr i ddiogelu iechyd gweithwyr

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i amddiffyn gweithwyr rhag salwch a dylent eu cynnwys wrth reoli'r risgiau i'w hiechyd yn union fel y byddent gyda diogelwch.

Ni ddylai gweithwyr orfod derbyn yr anafiadau hyn a dioddefaint hirdymor posibl fel rhan anochel o waith adeiladu. Dylent siarad â'u cyflogwr am y risgiau a'r camau sydd ar waith i ddiogelu eu hiechyd. 

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor i gyflogwyr, gweithwyr ac adeiladwyr bach
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.