BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos y Cynnig Cymraeg - Comisiynydd y Gymraeg

15 i 19 Mai 2023 yw wythnos y Cynnig Cymraeg.

Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg.  

Rydym eisiau i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru fedru derbyn gwasanaethau yn eu hiaith, ac i wybod pa wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Er mwyn medru byw yn Gymraeg mae angen i bawb wybod pa wasanaethau sydd ar gael.  

Yn ystod yr wythnos byddwn yn dathlu llwyddiant sefydliadau sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg a’r rheini sydd yn nghanol y broses o fynd amdani. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’w defnyddio, ac yn annog pobl Cymru i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Gobeithiwn weld mwyfwy o fusnesau ac elusennau yn defnyddio’r iaith ac yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.  

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y Cynnig Cymraeg mae croeso i chi gysylltu y Comisiynydd y Gymraeg: Cysylltu â ni (comisiynyddygymraeg.cymru)

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch cynghori ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.