BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y diweddaraf am y cynllun Benthyciad Adfer

Bydd busnesau a gymerodd Fenthyciadau Adfer a gefnogir gan y Llywodraeth i oroesi drwy bandemig Covid-19 yn cael rhagor o hyblygrwydd i ad-dalu eu benthyciadau.

Nawr, bydd gan fenthycwyr Benthyciadau Adfer yr opsiwn i deilwra taliadau yn unol â’u hamgylchiadau unigol a chael y dewis nawr i oedi pob ad-daliad am chwe mis pellach.

Ewch i wefan GOV.UK i ddarllen y diweddariad.

Mae’r cynllun yn helpu busnesau bach a chanolig i fenthyg rhwng £2,000 a hyd at 25% o’u trosiant. Y benthyciad mwyaf sydd ar gael yw £50,000.

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd o 100% ar y benthyciad ac ni fydd unrhyw ffioedd na llog i’w talu am y 12 mis cyntaf. Ar ôl 12 mis bydd y gyfradd llog yn 2.5% y flwyddyn.

Mae’r cynllun ar gael i geisiadau hyd at 31 Mawrth 2021.

Os oes gennych chi eisoes Fenthyciad Adfer ond eich bod wedi benthyg llai na’r hyn yr oedd gennych chi hawl iddo, gallwch ychwanegu at eich benthyciad presennol i’ch uchafswm. Mae’n rhaid i chi ofyn am y swm ychwanegol erbyn 31 Mawrth 2021.

I weld sut gallwch chi wneud cais am Fenthyciad Adfer coronafeirws, ewch i wefan GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.