BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n defnyddio Cyfrif Treth Busnes CThEM?

Cyfrif ar-lein yw’r Cyfrif Treth Busnes sy’n dod â’ch holl drethi busnes at ei gilydd i un lle - gan gynnwys cynllun Talu wrth Ennill ar gyfer Cyflogwyr.

Wrth fewngofnodi unwaith, gallwch weld crynodeb o’ch sefyllfa dreth, rheoli’ch gwybodaeth fel cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ynghyd â gwneud taliadau i CThEM.

I gael rhagor o wybodaeth am fanteision defnyddio’r Cyfrif Treth Busnes a sut i’w sefydlu, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.