BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n teithio allan o’r DU at ddibenion busnes?

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi camau pellach ar gyfer teithwyr allan ac i mewn i leihau’r teithio ar draws ffiniau rhyngwladol a lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau o 15 Chwefror 2021 y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n teithio i’r DU o wlad ar restr gwaharddiad teithio’r DU fod dan gwarantin mewn cyfleuster sydd wedi’i gymeradwyo gan lywodraeth y DU am gyfnod o 10 diwrnod.

Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law ar sut y bydd teithwyr yn gallu archebu lle yn y cyfleusterau llety dynodedig.

Coronafeirws (COVID-19): Swyddi sy'n gymwys ar gyfer eithriadau teithio 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut mae paratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.