BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws wedi cael ei ymestyn hyd ddiwedd Medi 2021.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, hyd ddiwedd Mehefin 2021.

Yn ystod mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn talu am 70% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o £2,187.50. Ym mis Awst a mis Medi, bydd y swm hwn yn lleihau i 60% o gyflogau arferol cyflogeion hyd at uchafswm o £1,875.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi barhau i dalu o leiaf 80% o gyflogau arferol eich gweithwyr sydd ar ffyrlo am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis. Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, mae hyn yn golygu y bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth rhwng y swm hwn a’r grantiau sy’n dod o’r Cynllun Cadw Swyddi. Gallwch dalu gweddill y cyflogau uwchben 80% os dymunwch, ond nid yw hyn yn ofynnol.

Rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr cysylltiedig a chyfraniadau pensiwn ar gyflog ffyrlo â chymhorthdal o’ch cronfeydd eich hun. 

Cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws o fis Mai ymlaen 

Ar gyfer cyfnodau o 1 Mai 2021 ymlaen, byddwch yn gallu hawlio ar gyfer cyflogeion cymwys a oedd yn gyflogedig gennych ac ar eich cyflogres Talu Wrth Ennill ar 2 Mawrth 2021. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod wedi cyflwyno Gwybodaeth Amser Real Talu Wrth Ennill i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021, yn rhoi gwybod i CThEM am enillion y cyflogai hwnnw.

Does dim angen i chi a’ch cyflogeion fod wedi manteision ar y cynllun o’r blaen i hawlio, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.