BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn y cynllun Mynediad i Waith

Mae Covid-19 yn newid y modd y mae busnesau a phobl yn gweithio ac yn effeithio ar yr amgylchedd a’r trefniadau gwaith.

Bydd pobl ag anabledd sy’n gweithio gartref neu yn y gweithle yn gallu manteisio ar gymorth ychwanegol yn sgil estyniad i’r cynllun Mynediad i Waith. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer cyfarpar arbennig, costau teithio ac iechyd meddwl.

Mae llawer o gyflogwyr yn gofyn i weithwyr addasu i amgylchedd newydd, ac mae’r cynllun Mynediad i Waith yn gallu gwneud cyfraniad allweddol at helpu pobl anabl i gadw eu swyddi, dychwelyd i’w swyddi a dod o hyd i swyddi.

Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.