Wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau’r haf, mae Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn atgoffa teuluoedd a allai fod yn colli allan ar Ofal Plant Di-Dreth i gofrestru.
Mae teuluoedd yn cael hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) fesul plentyn, neu £1,000 (£4,000 y flwyddyn) os yw eu plentyn yn anabl, gan helpu tuag at gost clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd, clybiau gwyliau a chynlluniau gofal plant eraill sydd wedi'u cymeradwyo.
Gall teuluoedd ddarganfod pa gymorth gofal plant sydd orau iddyn nhw trwy Childcare Choices.
Gellir agor cyfrifon ar unrhyw adeg o'r flwyddyn a gellir eu defnyddio ar unwaith, a gellir adnau arian ar unrhyw adeg a'i ddefnyddio pan fo angen. Gellir tynnu allan unrhyw arian wedi’i adnau na chaiff ei ddefnyddio ar unrhyw adeg.
Darllenwch fwy o wybodaeth am Gofal Plant Di-Dreth a sut i gofrestru.
Gallai rhieni a gofalwyr fod yn gymwys i dderbyn Gofal Plant Di-dreth :
- os oes ganddynt blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maen nhw'n peidio â bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11 oed. Os oes gan eu plentyn anabledd, efallai y byddant yn cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan ei fod yn 17 oed
- os ydynt yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf y Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw am 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd yr un, heb fod yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn
- os nad ydynt yn derbyn credydau treth, Credyd Cynhwysol neu dalebau gofal plant
Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwyso ar gael ar GOV.UK.
Mae CThEM wedi cynhyrchu canllaw Gofal Plant Di-dreth wed’i adnewyddu i rieni, sy'n egluro'r rhesymau a'r buddion yn sgil cofrestru ar gyfer y cynllun.
Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwyr gofal plant trwy GOV.UK i dderbyn taliadau gan rieni a gofalwyr drwy'r cynllun.