BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr UE yn penderfynu defnyddio penderfyniadau ‘digonolrwydd’ i adael i ddata barhau i lifo i’r DU yn ddirwystr

Bydd busnesau a sefydliadau eraill yn y DU yn gallu manteisio ar drosglwyddiadau data personol heb gyfyngiadau.

Gall data personol barhau i lifo’n ddirwystr rhwng Ewrop a’r DU yn dilyn penderfyniad gan yr UE i ddechrau defnyddio penderfyniadau ‘digonolrwydd data’.

Bydd dechrau defnyddio’r penderfyniadau hyn yn swyddogol o dan Reoliad Cyffredinol yr UE ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith (LED) yn caniatáu i ddata personol lifo’n ddirwystr o’r UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) ehangach i’r DU. Mae’r penderfyniadau’n golygu y gall busnesau a sefydliadau eraill yn y DU barhau i dderbyn data personol o’r UE a’r EEA heb orfod rhoi trefniadau ychwanegol ar waith gyda gwledydd yn Ewrop. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK ac Comisiwn yn mabwysiadu penderfyniadau digonolrwydd ar gyfer y DU.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.