BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Porth Brexit Busnes Cymru - Ffurflen Cysylltu â Ni

Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 4 Medi 2018.


Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon, ac mewn ffordd dryloyw.  Rhowch funud neu ddau i ddod yn gyfarwydd â’n harferion preifatrwydd os gwelwch yn dda.


1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu
Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data’r data personol rydych chi’n eu darparu ar Ffurflen Cysylltu â Ni Busnes Cymru. Yn unol â’n tasg gyhoeddus, caiff y data eu defnyddio i’ch adnabod chi ac i ddarparu’r cymorth mwyaf priodol i chi gan ein timau gwasanaeth.
Bydd yr wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi’n cael ei defnyddio i greu cofnod ar ein systemau TG o’ch ymholiad cymorth i fusnesau; bydd hyn yn ein galluogi i fynd ar ôl unrhyw gymorth cysylltiedig neu briodol y gallwn ei ddarparu.


2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data: 
Bydd y timau Busnes mewn Ffocws yn gallu gweld y data hyn. Dyma dimau sy’n cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i fusnesau a noddir gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’r data a gesglir ar Ffurflen Cysylltu â Ni Porth Brexit Busnes Cymru.
Bydd timau gwasanaeth cefnogi Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a gesglir hefyd.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.  


3. Am ba mor hir y caiff eich manylion eu cadw
Caiff eich manylion eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 3 blynedd fel rhan o’n hadolygiadau ansawdd a’n hyfforddiant parhaus.


4. Eich hawliau.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i’r canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru’n eu cadw amdanoch chi
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan rai amgylchiadau)
  • ‘dileu’ eich data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:   dataprotectionofficer@llyw.cymru 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni.

 

5. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth Chi

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gall y cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei dal gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

 

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Os bydd y polisi hwn yn newid, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif er mwyn rhoi cyfle i chi adolygu’r fersiwn newydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.