BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd Gweithredol Lefel 0 Busnes Cymru (BIW)

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data'r holl ddata personol y byddwch yn eu rhoi i Syniadau Mawr Cymru inni allu cyflawni'n tasg gyhoeddus o ran cefnogi entrepreneuriaeth. Caiff y data eu prosesu yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).


Er mwyn ichi gael help y cynllun hwn sy'n cael ei noddi gan Ewrop, rhaid inni ofyn ichi am wybodaeth. Rydyn ni'n prosesu'ch data yn unol â'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i Lywodraeth Cymru gefnogi entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yn unol â'r strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.


O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- yr hawl i weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch;
- yr hawl i sicrhau ein bod yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny;
- yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu;
- yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i fynnu bod eich data yn cael eu 'dileu’;
- yr hawl i gofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9RZ.


Os oes gennych bryderon neu gŵyn ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru'n trin data o dan y GDPR, manylion cysylltu â swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Customer Contact, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
Rhif Ffôn: 01625 545 745/ 0303 123 1113, Gwefan: www.ico.org.uk


Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei phrosesu gan Busnes mewn Ffocws ac Antur Teifi sy'n cynnig help i fusnesau ar ran Syniadau Mawr Cymru. Caiff y data eu hanfon i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru/Llywodraeth Cymru ac ambell waith at bartïon sy'n gweithio ar eu rhan, a'u defnyddio yn y ffyrdd a ganlyn.

• Ateb y gofyn i baratoi adroddiadau ar brosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop y Comisiwn Ewropeaidd.
• Monitro a chofnodi nifer yr unigolion a'r mentrau sy'n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o grwpiau gwahanol sy'n cael eu helpu (e.e. yn ôl oed, rhywedd a thras ethnig).
• Gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, i gynnal y gwaith ariannu, cynllunio a monitro ac i gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol.
• Gan gyrff ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil a dadansoddi neu i fonitro cyfle cyfartal.
• At ddibenion archwilio a dilysu.
• Cysylltu'ch data o'r ffurflen hon â ffynonellau data eraill at ddiben gwerthuso effaith y prosiect ar unigolion a mentrau sy'n cymryd rhan.

Bydd cyrff/gwerthuswyr ymchwil yn cysylltu â sampl yn unig o unigolion a/neu fentrau. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn ymchwil/gwerthusiad am eich profiad ar y prosiect, esbonnir y cyfweliad neu'r arolwg i chi a chewch yr opsiwn i gytuno i gymryd rhan neu i wrthod. Caiff eich manylion cyswllt eu defnyddio i gynnal ymchwil gymeradwy ac yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Bydd cyrff ymchwil yn dileu'ch manylion cyswllt ar ôl cwblhau'r ymchwil.

Caiff eich data eu cadw am oes rhaglen Syniadau Mawr Cymru ac am 10 mlynedd arall at ddibenion archwilio.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.