BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

LlC yn Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ym maes Twristiaeth - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru ac, yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy'n egluro pam ein bod yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu mewn ffordd sy'n deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw.

 

Adran 1 – Pwrpas casglu a chadw'r data personol

Ar hyn o bryd, rydym yn cadw eich gwybodaeth gyswllt fel rhanddeiliad allweddol yn y sector twristiaeth a hoffem barhau i wneud hynny fel rhan o Dasg Gyhoeddus Llywodraeth Cymru ac er budd datblygiad economaidd Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion cyswllt: gwybodaeth am unigolion a manylion ar fusnesau pan fo hynny'n berthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru, fel rheolydd data, yn ymgysylltu â chi fel rhanddeiliad allweddol ym maes twristiaeth er mwyn darparu gwybodaeth i chi, rhoi gwybod i chi am uchafbwyntiau a’ch gwahodd i ddigwyddiadau perthnasol. Bydd yn tynnu eich sylw at ddatblygiadau busnes a chyfleoedd cydweithio a all fod o fudd i chi, neu bydd yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau neu grwpiau ffocws. Ar gyfer grwpiau penodol, efallai y byddwch yn cael eich gwahodd ar wahân.

 

Adran 2 - Pwy fydd yn cael gweld eich data

Dim ond staff sy'n gweithio yn Sector Twristiaeth Llywodraeth Cymru, a’r rhai sy’n cysylltu â chi ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosiectau Twristiaeth a fydd yn gallu gweld eich gwybodaeth.

 

Adran 3 – Cadw dogfennau

Bydd yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei storio’n ddiogel, yn gwbl unol â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. 

Gyda’ch cydsyniad bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion am bum mlynedd, a’u hadolygu bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gyfredol. Os nad ydych yn dymuno parhau i fod yn y grŵp rhanddeiliaid hwn, rhowch wybod inni drwy anfon e-bost at quality.tourism@llyw.cymru.

 

Adran 4 - Hawliau unigolion      

Mae gennych chi’r hawliau a ganlyn:

  • Yr hawl i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch a chael gweld y data hwnnw;

  • Yr hawl i fynnu ein bod ni’n cywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu atal prosesu;

  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i’ch data gael ei ‘ddileu’;

  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i gludo data;

  • Yr hawl i roi cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Adran 5 – Cysylltiadau

 

I holi am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'n cael ei defnyddio neu, os ydych chi am arfer eich hawl o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Croeso Cymru – Ymgysylltu â’r Diwydiant

 

E-bost: quality.tourism@llyw.cymru

 

 

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales 

 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk

Gwefan:  www.ico.org.uk

 

Adran 7 - Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi hwn unrhyw adeg. Bydd y newidiadau’n cael eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym yn syth. Pan fydd newidiadau’n digwydd i’r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi’i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn i chi allu edrych ar y fersiwn newydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.