BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Gallwch wella pa mor gystadleuol a chynhyrchiol yw eich sefydliad drwy bartneriaethau a ariennir gydag academyddion ac ymchwilwyr. Mae’r cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn helpu sefydliadau yn y DU i arloesi a thyfu. Mae’n gwneud hyn drwy eu cysylltu â sefydliad ymchwil neu academaidd, a graddedigion.

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn galluogi sefydliadau i ddod â sgiliau newydd a’r meddwl academaidd diweddaraf i mewn er mwyn cyflawni prosiect arloesi penodol a strategol drwy bartneriaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Bydd y sefydliad partner academaidd neu ymchwil yn helpu i recriwtio rhywun sydd wedi graddio ac sy’n addas, y’i gelwir yn gydymaith. Byddant yn gweithredu fel cyflogwr y person hwn, a fydd wedyn yn gweithio yn y sefydliad dros hyd y prosiect.

Mae rhaglenni Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhedeg yn barhaus drwy gydol y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth ewch i edrych ar ganllawiau’r Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth 

 

Astudiaeth Achos - Eriez

Fe wnaeth partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd helpu Eriez i lansio eu synhwyrydd metel digidol. Gwyliwch sut y bu i gymorth gan yr Uwch Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth helpu i roi hwb i ddatblygiad Eriez.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.