BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhybudd Preifatrwydd – Ffurflen Digwyddiadur Busnes Cymru

Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2018.


Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd.

1. Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol  a ddarperir gennych ar ffurflen  digwyddiadau Busnes Cymru.

Diben casglu'r data hwn yw i gadw eich  lle  ar gyfer mynuchu’r digwyddiad dan sylw.

Gellir defnyddio y wybodaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a’i  chontractwyr i gysylltu â chi ynghylch rhagor o gefnogaeth ar gael yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen hon.

Gan archebu lle ar unrhyw ddigwyddiad wedi’i drefnu  gan Busnes Cymru a llenwi'r ffurflen yr ydych yn cydnabod y gellir cysylltu â chi gan aelodau o dimau cymorth Lywodraeth Cymru ar wasanaethau neu raglenni a allai fod o fudd i'ch busnes ar sail y wybodaeth sydd gennych darparu. Mae derbyn amodau hyn yn awgrymu nad oes rhwymedigaeth ar eich rhan chi i gymryd rhan mewn cyfranogiad ymhellach gyda Llywodraeth Cymru.

2. Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?

Bydd yr wybodaeth o'r sgwrs fyw yn cael ei throsglwyddo i'n system TG a bydd timau gwasanaeth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu cael mynediad ati.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd arall.  

3.  Pa mor hir fydd eich manylion yn cael eu cadw?

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 2 flynedd fel rhan o’n hyfforddiant a’n hadolygiadau ansawdd parhaus.

4. Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

 Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Ar gyfer cael help gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Busnes Cymru os gwelwch yn dda ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/contact-us

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru.  Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd.  Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg.  Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth.    Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

Ar gyfer gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Swyddog Gwarchod Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:  DataProtectionOfficer@llyw.cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.