1. Cyflwyniad

Mae gweithredu mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol yn ddyletswydd gyfreithiol. Mae pob busnes yn gyfrifol am gydymffurfio gydag ystod o ddeddfwriaeth amgylcheddol i leihau’r effaith y mae’ch busnes yn ei gael ar yr amgylchedd. Mae pa reoliadau sy’n effeithio ar eich busnes yn dibynnu ar natur eich busnes. Gallwch gael canllawiau ar bynciau amgylcheddol i fusnesau yn eich sector ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae llawer o fusnesau wedi sylweddoli fod mynd ymhellach na chydymffurfio amgylcheddol yn unig yn gwneud synnwyr busnes ac y gall helpu i wella’ch llwyddiant hirdymor.

Gall lleihau’r deunydd o ynni, lleihau gwastraff a defnyddio deunyddiau crai yn fwy effeithlon a rhwystro llygredd:

  • dorri costau a gwella effeithlonrwydd
  • lleihau risg a sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda’r gyfraith
  • hybu’ch enw da ymhlith cwsmeriaid, cyflenwyr, buddsoddwyr a’r gymuned leol
  • codi ysbryd gweithwyr, ei gwneud hi’n haws denu, cadw ac ysbrydoli staff
  • cynyddu cyfleoedd busnes trwy fodloni galw cwsmeriaid am arferion busnes cynaliadwy

Mae pobl yn rhan bwysig o’ch llwyddiant amgylcheddol. Rhowch ran i’ch holl weithwyr a’u hannog i fod yn amgylcheddol gyfrifol trwy hyfforddiant, cyfarwyddyd a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth rheolaidd. Ewch ati i fonitro a diweddaru’ch gweithgareddau’n rheolaidd i adlewyrchu mentrau a phrosesau newydd a all roi hwb arall i’ch ymdrechion i leihau’ch effaith ar yr amgylchedd yn lleol ac yn genedlaethol.  

2. Effeithlonrwydd adnoddau

Gall defnydd effeithlon ar adnddau helpu i dorri costau eich busnes. Dyma gynghorion ar newidiadau syml:

  • Rhowch gyfle i’ch staff gymryd rhan – mae syniadau gweithwyr yn aml yn arwain at arbedion o 5% i 10%.
  • Rheoli eich gwresogi  -  mae gostyngiad o un radd yn nhymheredd eich safle yn arbed hyd at 8% ar filiau ynni bob blwyddyn. I gael y cynhyrchiant gorau bosib gosodwch y tymheredd ar 21-22°C. Gwnewch i’r aerdymheru ddod ymlaen yn uwch na 24°C. Gosodwch amseryddion fel nad yw’r gwresogi’n dod ymlaen ond pa fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio.
  • Peidio gwastraffu gwres - cadwch ddrysau a ffenestri ynghau pan fydd y gwresogi neu aerdymheru yn gweithio. Gosodwch rimynnau drafft a gwnewch yn siŵr fod eich adeilad wedi ei insiwleiddio’n dda.
  • Defnyddio goleuadau ynni isel. Rhowch oleuadau ymlaen pan fydd eu hangen yn unig. Gosodwch sensorau i gynnau a diffodd goleuadau yn awtomatig. 
  • Diffodd offer swyddfa – gall un cyfrifiadur sy’n cael ei adael ymlaen am 4 awr y dydd gostio mwy na £50 y flwyddyn, felly diffoddwch gyfrifiaduron, peiriannau argraffu a phob offer trydanol arall dros nos a thros y Sul.  
  • Diffodd moduron – sy’n aml wedi eu cuddio y tu mewn i beiriannau. Edrychwch lle maen nhw a diffoddwch nhw yn ystod pob seibiant neu newid gorchwyl. Yn aml mae modd rheoli moduron sy’n gyrru pympiau trwy ‘yriannau cyflymder amrywiol'. 
  • Cywasgu eich costau aer - gall lleihad pwysedd o 10% arwain at 5% o arbedion ynni. Gwnewch ostyngiadau bach, cam wrth gam, gan wneud yn siŵr nad yw hyn yn effeithio ar eich gweithrediadau. Hefyd, gwnewch brofion rheolaidd ar gyfer gollyngiadau, a’u trwsio - gall hyd yn oed y gollyngiad lleiaf gostio mwy na £700 y flwyddyn mewn gwastraff ynni.
  • Cau drysau oergelloedd a rhewgelloedd. Ar gyfartaledd mae’n costio £4 am bob awr y mae drws rhewgell yn cael ei adael yn agored. Gosodwch lenni PVC rhad neu lenni nos ar gypyrddau wedi’u hoeri.  
  • Cynnal a chadw eich offer - a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n effeithlon. 
  • Mesur eich arbedion - cofiwch ddarllen eich mesuryddion yn rheolaidd, fel y gallwch ddarganfod sut y mae’ch cwmni’n defnyddio ynni ac ymhle mae’n cael ei wastraffu.

3. Rhestr wirio arbed ynni

Bydd defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn arbed arian i’ch busnes trwy dorri’ch biliau ynni. Helpwch i adnabod darpar gynilion trwy:

  • Gynnal arolwg wrth gerdded o amgylch eich busnes i weld cyfleoedd i arbed arian ac ynni yn syth.
  • Rhoi'r cyfrifoldeb am effeithlonrwydd ynni i rywun o fewn y busnes a rhowch yr amser ac adnoddau angenrheidiol iddyn nhw wneud y gwaith yn drylwyr.
  • Gwneud darlleniadau misol o’r mesuryddion er mwyn cael darlun manwl gywir o faint o ynni y mae’ch busnes yn ei ddefnyddio ac ymhle y gellid gwneud yr arbedion mwyaf.
  • Gwneud yn siŵr eich bod chi ar y tariff ynni cywir. Er enghraifft, os ydych chi ar y ‘tariff dydd/nos' ond ddim yn defnyddio trydan yn ystod y nos, mae’ch biliau’n debyg o fod yn uwch nag mae angen iddyn nhw fod.
  • Siarad gyda chyflenwyr ynni eraill am y telerau y gallen nhw eu cynnig rhag ofn fod y rhain yn well na rhai’ch cyflenwr presennol.
  • Ystyried gwahodd cwmnïau ynni i dendro ar gyfer eich busnes.

Gallwch gael cyngor ar arbed ynni ac arian ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. 

Gallwch hefyd gael cyngor ar arbed ynni ar wefan Ymddiriedolaeth Carbon Cymru.

4. Defnyddio llai o ddŵr

Gall mynd ati’n systematig i gynilo dŵr ddod â lleihad o 20 i 50% yn y defnydd - gan arwain at gostau cyflenwi a gwaredu sylweddol is.

Er mwyn adnabod ffyrdd posib o gynilo, ewch ati i fesur a monitro’ch defnydd o ddŵr trwy:

  • wirio rhif cyfresol eich mesurydd - gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich bilio ar gyfer eich mesurydd
  • cymharu’r defnydd o ddŵr o flwyddyn i flwyddyn fel y gallwch adnabod unrhyw batrymau anarferol
  • cymharu’ch defnydd o ddŵr gyda busnesau tebyg
  • gwneud yn siŵr fod staff yn hollol ymwybodol o bwysigrwydd lleihau cymaint ag sy’n bosib ar y defnydd o ddŵr a’u cael i gymryd rhan
  • sicrhau fod pibellau’n cael eu hinsiwleiddio’n dda i warchod rhag difrod rhew
  • edrych am beipiau’n gollwng, tapiau’n diferu a falfiau gwallus - gall diferu 5mm o un tap gostio mwy na £900 y flwyddyn mewn costau dŵr a thrin dŵr gwastraff

Gall eich busnes leihau’r defnydd o ddŵr trwy:

  • osod dyfeisiadau fflysio awtomatig mewn wrinalau a lleihau maint sestonau
  • defnyddio lleihawyr pwysedd neu gyfyngwyr llif i leihau’r defnydd o ddŵr, er enghraifft ar fasnau ymolchi a pheipiau rwber
  • tynnu hen offer a rhoi modelau newydd sy’n defnyddio dŵr yn fwy effeithlon yn eu lle
  • gwneud prosesau yn fwy dŵr effeithlon
  • defnyddio ffynonellau dŵr amgen, er enghraifft defnyddio dŵr glaw ac ailddefnyddio dŵr llwyd, ailddefnyddio dŵr oeri i ddibenion eraill

5. Lleihau gwastraff deunyddiau pacio

Y ffordd fwyaf cost effeithiol ac ecogyfeillgar o ddelio gyda gwastraff deunydd pacio yw peidio’i gynhyrchu yn y lle cyntaf. Os na allwch ddiddymu’r gwastraff yn llwyr, ceisiwch leihau’r swm gymaint ag sy’n bosib. Ystyriwch ailddefnyddio, ailgylchu, compostio ac ynni-o-wastraff. Pryd bynnag y mae’n ymarferol, prynwch gynhyrchion sydd wedi eu gwneud o ffynonellau adnewyddol a moesegol dderbyniol.

Gwnewch eich cyflenwyr yn ymwybodol o’ch amcanion amgylcheddol a gwiriwch a oes ganddyn nhw eu polisïau amgylcheddol eu hunain yn eu lle. Gweithiwch gyda nhw er mwyn ymdrin mor effeithlon ag sy’n bosib gyda deunyddiau pacio.

Gall eich busnes leihau deunyddiau pacio trwy:

  • ddadansoddi patrymau gwerthiant trwy osgoi gor-archebu
  • defnyddio systemau cyflenwi union-mewn-pryd i sicrhau nad ydych yn storio mwy na’r isafswm o stoc
  • paratoi polisi dychwelyd ar gyfer nwyddau sydd heb eu defnyddio neu wedi difrodi
  • gwahanu’ch gwastraff deunyddiau pacio i helpu gydag ailgylchu a gosod biniau ailgylchu yn eich adeilad
  • archwilio sut y gallai’ch h busnes ddefnyddio cynlluniau cyfnewid gwastraff
  • anfon hangwyr dillad sydd wedi eu defnyddio yn ôl i’r cyflenwyr i’w hailgylchu ac o bosib ad-daliadau
  • defnyddio cratiau neu focsys plastig yn lle bocsys cardbord un-defnydd, a bocsys neu gratiau hunan-stacio yn lle lapio poeth
  • sicrhau fod dalennau cardbord neu blastig yn cael eu fflatio a’u gwneud yn fyrnau cyn cael eu hailgylchu
  • defnyddio papur wedi ei ailgylchu neu bapur gydag achrediad y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC).
  • ystyried rhwygo papur a cherdyn yn stribedi i gynhyrchu deunydd pacio neu lenwadau
  • cymharu cost a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gontractwyr gwastraff
  • gallwch gael cyngor ar reoli busnes reoli gwastraff mewn prosesau busnes ar wefan Rhaglen Weithredu Adnoddau Gwastraff (WRAP)

Gallwch hefyd gael cyngor ar wefan y Rhaglen Genedlaethol Symbiosis Diwydiant(NISP) - mae’r NISP yn helpu busnesau i dorri costau a chynhyrchu ffrydiau refeniw newydd trwy wneud gwell defnydd o’u hadnoddau.