Adrodd neu Riportio Troseddau

Police lights

Mae'n hanfodol fod busnesau'n adrodd ar droseddau wrth yr Heddlu os ydyn nhw'n dioddef o weithgaredd troseddol. Mae pob Heddlu yng Nghymru yn dibynnu ar wybodaeth gan y cyhoedd i ymladd troseddu.

Os nad yw trosedd yn cael ei riportio, bydd y drwgweithredwr yn credu nad oes neb wedi sylwi ac y gall ddal ati i droseddu. Ar ben hynny, os nad yw neb yn adrodd, ni fydd yna ymchwiliad. Heb ymchwiliad, ychydig iawn o obaith fydd yna o ddal y drwgweithredwr. Gall ymchwiliadau ymddangos yn drafferthus i fusnesau ond, os na chynhelir ymchwiliad, gall y troseddwr gredu y gall ddod yn ôl.

Ystyriaeth arall i fusnesau yw effaith troseddu ar y gymuned fusnes ehangach. Os yw un busnes yn penderfynu peidio ag adrodd ar drosedd wrth yr heddlu, gallai hynny gynyddu’r perygl i fusnesau eraill yn yr ardal.

Mae troseddwyr yn manteisio ar wendidau pobl ac, os yw busnes yn dangos gwendid, er enghraifft, peidio â riportio trosedd, yna efallai y bydd troseddwyr yn targedu busnesau eraill yn yr ardal. Mae’r ddamcaniaeth Torri Ffenestri’n awgrymu, os oes yna rai ffenestri wedi torri, a’u bod yn cael eu gadael, y gallai’r fandal ddod yn ôl i dorri rhagor o ffenestri.

Gallai hyn arwain at ddirywiad yn yr ardal. Mae’r ddamcaniaeth torri ffenestri’n awgrymu y gallai ffenestri wedi’u torri arwain at ddenu sgwatwyr a hyd yn oed at droseddau ymhell o'r eiddo, megis lladrata o geir. Mae eiddo sy’n cael ei adael heb ei drwsio’n normaleiddio presenoldeb difrod sy’n awgrymu i droseddwyr ei fod yn darged hawdd. O ran cymdogaeth, neu ardal, efallai y bydd busnesau'n gyndyn o ddod i'r ardal oherwydd y difrod i eiddo eraill. Gallai staff hefyd golli ymddiriedaeth yn yr ardal a dod i deimlo'n llai cyfforddus yn dod i'r gwaith.


Adrodd ar droseddau’n ddienw wrth Taclo’r Taclau

Elusen annibynnol yw Taclo’r Taclau sy'n helpu i ddal troseddwyr ac i ddatrys troseddau. I riportio trosedd yn ddienw, ffoniwch 0800 555 111.

Dolenni Defnyddiol

Dyma gasgliad o gysylltiadau sy'n darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar adrodd trosedd.

Riportio Twyll

Os ydych chi wedi dioddef twyll, mae’n bwysig eich bod yn ei riportio, mae twyll yn drosedd a bydd twyllwyr yn canfod ffyrdd newydd o dwyllo pobl yn ddi-baid. Gall unrhyw un gael ei dwyllo.

Riportio i'r Heddlu

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft, mae cerbyd wedi’i ladrata neu mae eiddo wedi’i ddifrodi.

Riportio twyll ariannol yn cynnwys cardiau debyd neu gredyd

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef o dwyll adnabyddiaeth a oedd yn cynnwys defnyddio cardiau plastig (megis cardiau debyd a chredyd), bancio ar lein, neu sieciau, dylech adrodd ar hynny'n uniongyrchol i'r sefydliadau ariannol perthnasol.