Dolenni Defnyddiol

Action Fraud

Canolfan adrodd genedlaethol y DU ynghylch twll sy’n cael ei rhedeg gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol.  


Gweithgor Gwrth Gwe-rwydo

os ydych wedi derbyn e-bost gwe-rwydo gallwch ei anfon ymlaen at y Gweithgor Gwrth Gwe-rwydo. Bydd yn ceisio adnabod a chau’r gwefannau, yr enwau parth a’r cyfeiriadau e-bost sy’n cael eu defnyddio gan y twyllwyr, gwella systemau amddiffyn defnyddwyrmegis bariau offer gwrth gwe-rwydo a chynnyrch gwrth ysbïwedd a gwella hidlenni gwrth sbam fel bod llai o e-byst spam yn cyrraedd.


Bancio’n Ddiogel Ar Lein

Menter diwydiant bancio’r DU i helpu cwsmeriaid bancio ar lein i aros yn ddiogel ar lein. Os byddwch yn cael e-bost gwe-rwydo, yna gallwch ei anfon at Action Fraud Ariannol. Bydd yn ceisio adnabod a chau’r gwefannau, yr enwau parth a’r cyfeiriadau e-bost sy’n cael eu defnyddio gan y twyllwyr, gwella systemau amddiffyn defnyddwyr megis bariau offer gwrth gwe-rwydo a chynnyrch gwrth ysbïwedd a gwella hidlenni gwrth sbam fel bod llai o e-byst spam yn cyrraedd. 


Cymdeithas Bancwyr Prydain (BBA)

Cymdeithas Bancwyr Prydain llais y diwydiant bancio i bob banc sy’n gweithredu yn y DU.  


Busnes Cymru

Am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth busnes, ewch at wefan Cefnogaeth Busnes Llywodraeth Cymru ble cewch wybodaeth ynghylch cefnogaeth ar bopeth o ddechrau ac ehangu’ch busnes i allforio’ch cynnyrch a dod â’ch busnes i Gymru. Os ydych eisiau canfod rhagor ynghylch y gefnogaeth ariannol , eiddo neu fand eang a rhwydweithiau TGCh sydd ar gael yng Nghymru, bydd y wefan hon yn eich helpu i ganfod rhagor. 


Gwarchod Cardiau

Gwarchod Cardiau menter diwydiant bancio’r DU sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o rwystro twyll cardiau. 


Canolfan The Child Exploitation and Online Protection (CEOP)

Mae CEOP yn rhan o heddlu’r DU gyda'r gwaith penodol o amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol lle bynnag y maen nhw. Mae hynny’n cynnwys casglu cudd-wybodaeth ynghylch y risgiau, tracio a dod â throseddwyr o flaen eu gwell un ai’n uniongyrchol neu gyda heddluoedd lleol a rhyngwladol a gweithio gyda rhieni a phlant ar y rhaglen addysgol ThinkuKnow.​


Cyngor ar Bopeth

Mae’r gyfraith yn diogelu eich hawliau fel defnyddiwr pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau. Gallwch gael help os ydych yn cael eich trin yn annheg neu pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae hyn yn cynnwys cardiau credyd a siop, nwyddau diffygiol, nwyddau ffug, gwasanaethau gwael, problemau gyda chontractau, problemau gyda chontractwyr a masnachwyr twyllodrus. Gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi ar eich hawliau defnyddwyr. 


Y Cyngor Dylunio ar Droseddu, Diogelwch a’r Gyfraith

Dewch o hyd i wybodaeth ac adnoddau gan y Cyngor Dylunio ar Droseddu, Diogelwch a’r Gyfraith yma.


Get Safe Online

Ymgyrch ymwybyddiaeth diogelwch ar y rhyngrwyd cenedlaethol y DU yn cynnwys gwybodaeth ar ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ddiogel. I gael cyngor arbenigol am ddim vist wefan Get Safe Online.


Pwyllgor Llywio Nodi Twyll y Swyddfa Gartref

Rhaglen waith ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i daclo lladrad adnabyddiaeth a thwyll adnabyddiaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i wefanknowthenet.


Miller Smiles

Archif fwyaf y rhyngrwyd o Ebyst Ffug a Sgamiau Gwe-rwydo. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Miller Smiles.


Shop Safe Online

Gwybodaeth ar lein i fân-werthwyr ynghylch MasterCard SecureCode a Verified by Visa – gwasanaethau diogeleddd sy’n gwneud siopa ar lein yn fwy diogel.  Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Shop Safe Online. 


Sefydliad SANS

Y Sefydliad SANS cwmni mawr hyfforddiant diogeleddd a chynadledda sy'n cynnig templedi rhagorol ar gyfer polisïau diogeleddd cyfrifiadurol y gallwch eu llawr lwytho o'u safle. Mae’r polisïau hyn yn fan cychwyn da ac yn trafod y sbectrwm llawn o ddiogeledd cyfrifiadurol, gan gynnwys polisïau defnydd derbyniol, polisïau cyfrineiriau a pholisïau mynediad o bell ymysg llawer iawn rhagor. 

UK Payments Administration

Cymdeithas fasnach y DU ar gyfer taliadau ac ar gyfer y sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau talu i'w cwsmeriaid.