Riportio Twyll

Indoor phone call

Os ydych chi wedi dioddef twyll, mae’n bwysig eich bod yn ei riportio, mae twyll yn drosedd a bydd twyllwyr yn canfod ffyrdd newydd o dwyllo pobl yn ddi-baid. Gall unrhyw un gael ei dwyllo.

Action Fraud yw canolfan genedlaethol adrodd ar dwyll y DU. Mae'n bwynt cyswllt canolog i gael gwybodaeth ynghylch twyll. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol - asiantaeth y llywodraeth sy'n helpu i gydlynu'r frwydr yn erbyn twyll yn y DU.

Mae rhai enghreifftiau o dwyll y dylid eu riportio i Action Fraud yn cynnwys twyllwyr yn cysylltu â chi o bell i ddweud fod yna broblem gyda’ch cyfrifiadur ac yn cynnig ei drwsio am ffi, neu Dwyll Adnabyddiaeth – manylion, cyfrifon, cardiau neu sieciau personol yn cael eu defnyddio heb ganiatâd i gael arian neu nwyddau neu i agor cyfrif.

I riportio twyll ewch i wefan Action Fraud, i ddefnyddio eu teclyn adrodd ar lein neu ffoniwch (0300 123 2040) i siarad ag arbenigwr ar dwyll.

I gael rhagor o wybodaeth ewch ynghylch wefan Action Fraud.