Amdanom Ni
Partneriaeth o sefydliadau ac asiantaethau yw Troseddau Busnes Cymru sy’n cydweithio i helpu busnesau Cymru amddiffyn eu hunain rhag troseddau drwy gyflwyno'r wybodaeth a'r offer y maen nhw eu hangen i amddiffyn eu hunain rhag troseddau ac i leihau effeithiau troseddau.
Cafodd Troseddau Busnes Cymru ei sefydlu i gyfarfod ag ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i sefydlu Uned Troseddau Busnes.
Bydd Troseddau Busnes Cymru’n darparu’r arweinyddiaeth gyffredinol yn y maes hwn ac yn sicrhau y bydd Heddluoedd Cymru yn hollol ymwybodol o'r problemau troseddau busnes perthnasol y mae busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru’n eu hwynebu.
Partneriaid Troseddau Busnes Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Pedwar Heddlu Cymru
- Y Swyddfa Gartref
- Ffederasiwn Busnesau Bychan
- Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Casnewydd
- Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru
- Undeb Amaethwyr Cymru
- Y Swyddfa Eiddo Deallusol
- Cymru yn erbyn Troseddau Busnes
- Fforwm Twyll Cymru