Troseddau Nwyddau

CCTV Cameras

Troseddau nwyddau yw lladrata neu ddifrodi nwyddau a defnyddiau. Mae nwydd fel arfer yn golygu nwydd craidd neu gynnyrch amaethyddol sylfaenol y gellir ei brynu a’i werthu. Felly, i fusnesau Cymru, gallai hyn olygu lladrata neu ddifrodi nwyddau, metelau, defnyddiau neu bethau gwerthfawr.

Mae rhestr isod o droseddau nwyddau cyffredin. Cliciwch arnyn nhw i ddarllen rhagor ynghylch yr hyn a allai ddigwydd a sut y gallwch chi amddiffyn eich hunan.

  • Lladrata nwyddau a defnyddiau
  • Lladrata metel
  • Lladrata pethau gwerthfawr

Lladrata Metelau

Gall lladrata metelau gostio peth wmbredd o arian i ddiwydiant a busnesau.

Lladrata Nwyddau a Defnyddiau

Mae busnesau Cymru'n aml yn cadw amrywiaeth o nwyddau a defnyddiau'n amrywio o stoc a chyflenwadau i ddefnyddiau crai - y cyfan yn gallu denu ’troseddwyr.

Lladrata Pethau Gwerthfawr

Er bod llawer o’r troseddau a drafodir yn effeithio busnesau’n uniongyrchol, nid yw hynny’n digwydd bob tro yn achos lladrata pethau gwerthfawr.